Rydych yn defnyddio porwr sydd wedi dyddio sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o elfennau rhyngweithiol y safle ar gael i chi. Defnyddiwch borwr mwy cyfredol neu cyfeiriwch at y prif gynnwys yma.

Ynglŷn â MALlC

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw’r dull swyddogol o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n canfod ardaloedd sydd â’r crynoadau uchaf o fathau gwahanol o amddifadedd. Mae’n dod o dan faner Ystadegau Gwladol, ac yn cael ei baratoi gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

Amddifadedd yw’r diffyg mynediad i gyfleoedd ac adnoddau y byddem yn eu disgwyl yn ein cymdeithas. Gall hyn fod yn nhermau nwyddau materol neu allu'r unigolyn i gymryd rhan ym mywyd cymdeithasol arferol y gymuned.

Grŵp o fesuriadau gwahanol wedi’u cyfuno’n un rhif yw mynegai. Mae MALIC yn cynnwys wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd (gweler yr ochr dde). Mae data pob maes yn cael ei gasglu o bob math o ddangosyddion gwahanol.

Mae MALlC yn gosod yr holl ardaloedd bach yng Nghymru mewn safleoedd rhwng 1 (mwyaf difreintiedig) a 1,909 (lleiaf difreintiedig). Mae’r Mynegai yn darparu ffordd o nodi’r ardaloedd yn eu trefn, o’r lleiaf i’r mwyaf difreintiedig. Yn hytrach na mesur y lefelau amddifadedd mewn ardal, mae’n mesur a yw’r ardal yn fwy neu’n llai difreintiedig na holl ardaloedd eraill Cymru. Mae ein dogfen Ganllaw yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i ddehongli a defnyddio MALlC.

O gymharu â MALlC 2014, bydd MALlC 2019 yn defnyddio'r data diweddaraf ar gyfer y rhan fwyaf o'r 47 o ddangosyddion. Mae'r fethodoleg a ddefnyddiwyd o fewn MALlC 2019 fwy neu lai’r un peth â’r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer Malc 2014, ond bu rhai newidiadau i’r Mynegai, gan gynnwys:

  • newidiadau i ddangosyddion unigol, neu’r penderfyniad i gynnwys dangosyddion newydd yn y meysydd Iechyd, Addysg, Mynediad i Wasanaethau, yr Amgylchedd Ffisegol a Thai
  • newidiadau bach i'r pwysoliadau perthnasol a gymhwysir at y meysydd (neu fathau) o amddifadedd

Bu gwelliannau hefyd i nodweddion yr adnodd rhyngweithiol rhwng y ddau Fynegai, gan gynnwys:

  • mwy o fanylion yn weladwy ar fapiau (a fydd yn bosib eu lawrlwytho)
  • newidiadau i’r ddaearyddiaeth rydym yn edrych arnynt, er enghraifft rydym wedi ychwanegu proffiliau amddifadedd ar gyfer Ardaloedd Adeiledig a Rhanbarthau Bargen Ddinesig/Twf

Trosolwg o amddifadedd yng Nghymru

Adnoddau eraill MALlC

Mae data ar safleoedd a dangosyddion MALlC ar gael i'w lawrlwytho o StatsCymru.

Mae'r ardal MALlC ar ein gwefan Ystadegau ac ymchwil yn cynnwys datganiadau blaenorol o ddata yn ogystal â newyddion a diweddariadau. Gellwch hefyd ffeindio:

Archwilio MALlC

Cyffredinol Cyffredinol
Cyffredinol
Incwm Incwm
Incwm
Cyflogaeth Cyflogaeth
Cyflogaeth
Iechyd Iechyd
Iechyd
Addysg Addysg
Addysg
Mynediad i Wasanaethau Mynediad i Wasanaethau
Mynediad i Wasanaethau
Diogelwch Cymunedol Diogelwch Cymunedol
Diogelwch Cymunedol
Amgylchedd Ffisegol Amgylchedd Ffisegol
Amgylchedd Ffisegol
Tai Tai
Tai